Gwyddom oll y gall plastig fod yn drychineb amgylcheddol. Mae'r rhan fwyaf o ddeunyddiau addysgol yn canolbwyntio ar yr hyn sy'n digwydd i blastig ar ôl iddo gael ei ddefnyddio a'i daflu. Fodd bynnag, dim ond un rhan o'r broblem yw hon. Mae'n cymryd llawer iawn o ynni i gynhyrchu plastig yn y lle cyntaf. Bydd y cyflwyniad hwn a’r gweithgareddau yn annog eich disgyblion i feddwl am yr hyn sy’n mynd i mewn i gynhyrchu plastig a pham mae pob rhan o blastig, o’r defnyddiau y mae’n cael ei wneud ohono i’w waredu, yn broblem i’n planed.