Mae mwy na hanner yr ynni a gynhyrchir yn y DU yn cael ei wastraffu - mae hyn yn cyfateb i fwy na hanner bil trydan blynyddol cyfartalog.
Every one of us can try to reduce the energy we waste.Gall pob un ohonom geisio lleihau'r ynni rydym yn ei wastraffu.
Lleihau'r ynni rwyt ti'n ei wastraffu drwy sylwi ar byllau pŵer a sut mae dy gartref yn llosgi ynni. Gallai’r rhain gynnwys:
- Cael cawodydd poeth hir
- Cadw'r oergell neu'r rhewgell ar agor am amser hir tra byddi di'n penderfynu beth rwyt ti am ei fwyta
- Troi'r gwres i fyny pan yn oer yn hytrach na gwisgo siwmper
- Rhoi teclynnau yn y modd gorffwys yn hytrach na'u diffodd wrth y wal
Gadael goleuadau ymlaen pan fyddi di'n gadael yr ystafell
Siarada â dy rieni am y pyllau pŵer eraill hyn
- yr oergell a'r rhewgell - cadwa nhw'n lân ac yn rhydd o rew adeiledig a gwiria fod y seliau'n aerglos
- y thermostat - gall ei droi i lawr un radd arbed £££
- rheiddiaduron - tynna'r llwch, hwfra nhw a'u gwaedu i'w cadw'n effeithlont
- y tegell - berwa faint o ddŵr sydd ei angen arnat yn unig
- y peiriant golchi - bydd tymheredd oer a llwythi llawn yn torri costau ynni
Gwna rai posteri i'w gosod yn y mannau lle mae llawer o ynni'n llosgi o amgylch dy gartref i helpu dy deulu i arbed mwy o ynni.