Dadansoddwch ddefnydd ynni eich ysgol - adolygu amseriadau gwresogi

Dadansoddi'r hyn mae data nwy eich ysgol yn ei ddweud wrthyt am bryd y mae'r gwres yn cael ei gynnau a'i ddiffodd

10 CA1 CA2 CA3 CA4 CA5

Un o'r ffyrdd hawsaf o arbed arian i'ch ysgol a gostwng ei hôl-troed carbon yw sicrhau bod gwres yr ysgol dim ond wedi'i gynnau pan fo angen iddi fod yn gynnes!  Yn gyffredinol, nid oes angen gwresogi ysgolion yn llawn ar benwythnosau neu wyliau os nad oes neb yno.

Nwy yw'r ffynhonnell ynni mwyaf cyffredin ar gyfer gwresogi ysgolion, er mae rhai ysgolion yn defnyddio trydan neu olew ar gyfer gwresogi. Mae boeler nwy yn gweithio trwy losgi nwy i wresogi dŵr, sydd wedyn yn cael ei bwmpio o amgylch yr ysgol i wresogi'r rheiddiaduron.

Mae gwres llawer o ysgolion yn cynnau yn rhy gynnar yn y bore. Yn gyffredinol nid oes angen i foeleri ysgol fod ymlaen cyn 5am mewn tywydd oer a 7am pan fydd y tywydd yn fwynach. Os yw gwres eich ysgol yn cynnau cyn hyn, efallai y bydd modd gwneud newidiadau i reolyddion y gwres i arbed ynni a llawer o arian.

Mae Sbarcynni yn neilltuo amserau agor a chau diofyn ar gyfer eich ysgol.  Gall eich Eiriolwr Ynni addasu'r rhain trwy fynd i Reoli Ysgol/Amserau Rheoli Ysgol.


Edrychwch ar y ddau graff a ganlyn ar ddefnydd nwy ysgolion Sbarcynni i weld a allwch chi ateb y cwestiynau a ganlyn.

Graff A. Ysgol Uwchradd L
L High School gas consumption

A1. Pa bryd ydych chi'n meddwl y mae pobl yn adeiladau'r ysgol?
A2. Ar ba amser/amseroedd y mae defnydd nwy yn uchel (dros £6)
A3. Beth mae'r boeler yn ei wneud pan fydd yr ysgol ar gau?
A4. A oes unrhyw gwestiynau y mae angen i ti eu gofyn i bobl eraill am y data hwn (meddwl am bwy sy'n defnyddio'r ysgol a phryd)?
A5. Ydych chi'n meddwl bod y boeler hwn yn gweithio'n effeithiol?  Pam neu pam ddim?


Graff B.  Ysgol Gynradd SP

SP Primary School gas consumption



B1. Pa bryd ydych chi'n meddwl y mae pobl yn adeiladau'r ysgol?
B2. Ar ba amser/amseroedd y mae defnydd nwy yn uchel (dros £6)
B3. Beth y mae'r boeler yn ei wneud pan mae'r ysgol ar gau?
B4. A oes unrhyw gwestiynau y mae angen i chi ofyn i bobl eraill am y data hwn (meddyliwch am bwy sy'n defnyddio'r ysgol a phryd)?
B5. A ydych chi'n meddwl bod y boeler hwn yn gweithio'n effeithiol?  Pam neu pam ddim?


C1. Pa ysgol sydd â system reoli gwres gwell? 
C2. Pe fyddech chi'n Archwilydd Ynni, pa argymhellion fyddet ti'n eu gwneud ar gyfer Ysgol Uwchradd L. 
C3. A allech chi wneud unrhyw argymhellion i Ysgol Gynradd SP?

Gan eich bod bellach wedi dadansoddi amseriadau'r gwres ar gyfer ysgol Sbarcynni, efallai yr hoffech chi drafod gyda eich gofalwr am wneud rhai newidiadau i wres eich ysgol.

* Mae dyddiau gradd (y llinell ddu) yn mesur pa mor galed y mae'r boeler yn gorfod gweithio i gynnal tymheredd addas.  Po isaf yw darlleniad y diwrnod gradd, y cynhesaf yw'r tymheredd ar y pryd hwnnw.

Gwybodaeth Uwch 
Mae gan y rhan fwyaf o ysgolion mwy nodwedd ar reolydd y boeler o'r enw 'rheolydd dechrau optimaidd' sy'n cynnau'r boeler yn awtomatig yn gynt yn y diwrnod mewn tywydd oer ac yn ddiweddarach yn y dydd mewn tywydd cynhesach. Ond, mewn sawl ysgol nid yw'r awtomatiaeth hon yn gweithio'n iawn, ac mae'n diffodd y boeler yn rhy gynnar. Yr achos mwyaf cyffredin yw os yw'r thermostat y boeler  wedi'i leoli mewn ardal oer o'r ysgol megis cyntedd neu goridor yr ysgol. Mae thermostat y boeler yn dweud wrth y boeler beth yw tymheredd yr ysgol.  Os yw'r thermostat mewn ardal lle nad oes digon o reiddiaduron neu'n agos at ddrws sy'n aml ar agor, yna ni fydd y thermostat bydd yn cyrraedd y tymheredd sydd wedi'i osod ar y gwres. Mae hyn yn golygu ei fod yn dweud wrth y gwres i gynnau yn gynt ac yn gynt yn y bore, wrth i'r ystafelloedd dosbarth gynhesu a chynhesu. Fe allech ofyn i ofalwr yr ysgol geisio symud thermostat y boeler i ardal arall yn yr ysgol neu osod y thermostat ar dymheredd is.