English
  • Gweithgareddau
  • Gweithredoedd
  • Ein hysgolion
    Gweld ysgolion Byrddau sgorio Cymharu ysgolion
  • Ein gwasanaethau
    Ar gyfer Ysgolion Ar gyfer Ymddiriedolaethau Aml-Academi Ar gyfer Awdurdodau Lleol Archwiliadau ynni Gweithdai addysg Prisio Hyfforddiant Astudiaethau achos Cylchlythyrau Fideos
  • Amdanom ni
    Cysylltu Tîm Blog Ein cyllidwyr Swyddi Telerau ac amodau Polisi preifatrwydd Diogelu plant Ystadegau ysgolion
  • Cefnogwch ni
  • Cofrestru
  • Mewngofnodi

Disgyblion yn siarad â gofalwr yr ysgol am wella rheolyddion gwresogi

Gall disgyblion weithio gyda'r gofalwr i wella rheolyddion gwresogi i arbed ynni

10 CA2 CA3 CA4 CA5
Gweld 32 o weithgareddau cysylltiedig
Ydych chi'n ddefnyddiwr Sbarcynni
Mewngofnodwch nawr i gofnodi'r activity hwn ac ennill 10 o bwyntiau i'ch ysgol!
Mewngofnodwch i gofnodi activity
Bydd gennych chi lawer o gynghreiriaid yn eich cenhadaeth i wneud eich ysgol yn effeithlon o ran ynni.  Un o'r pwysicaf o'r rhain yw'ch gofalwr ysgol.  Yn ogystal â bod y cyntaf yn aml i mewn i'r ysgol yn y bore a'r olaf i adael, yn aml nhw yw'r unig rai yn yr ysgol sy'n gwybod sut i weithio'r rheolyddion boeler, gwres a dŵr poeth.

Un o achosion mwyaf gwastraffu ynni mewn ysgolion yw'r gwres a'r dŵr poeth sy'n aml yn cael eu rheoli'n wael. Mewn ysgolion sydd â systemau a reolir yn dda, mae'r defnydd o danwydd gwresogi yn nodweddiadol 15-30% yn is nag ysgolion eraill. Mae rheolaeth dda nid yn unig yn arbed ynni, ond hefyd yn cynnal amgylchedd cyfforddus cyson i ddefnyddwyr adeiladu, yn ogystal â chadw'r boeler mewn cyflwr gwell. Yn hytrach na boeler yn rhedeg 24/7, mewn system sydd wedi'i rheoli'n dda ni fydd y boeler neu'r gwresogydd ymlaen oni bai bod angen gwresogi neu ddŵr arnoch, felly mae'n werth gwneud yn siŵr bod eich rheolyddion wedi'u gosod yn dda.

Trefnwch gyfarfod gyda'r gofalwr a gofynnwch iddo pa mor aml y mae gosodiadau amser gwresogi yn cael eu hadolygu yn eich ysgol. Mae anghenion gwresogi yn amrywio drwy gydol y dydd - bydd angen cynhesu eich ystafelloedd dosbarth yn y bore ond yn aml erbyn canol y bore, gan fod ystafelloedd yn llawn cyrff cynnes, gellir diffodd y gwres neu ei droi i lawr.  Dylid adolygu gosodiadau amser bob mis i wirio eu bod yn gywir.  Mae llawer o systemau'n gweithredu'n wael oherwydd bod rhywun wedi gwneud newid tymor byr i'r gosodiadau ac yna wedi anghofio amdano.

  • Gweithiwch gyda'ch gofalwr i addasu amseroedd gwresogi'r bore gan ddefnyddio'r gweithgaredd hwn. Trafodwch yr amseroedd gorau i wres yr ysgol ddod ymlaen a diffodd bob dydd.  
  • Drwy gydol y diwrnod ysgol, gofynnwch i’r disgyblion a’r staff a ydyn nhw’n teimlo’n rhy boeth neu’n oer neu’n iawn. Os ydyn nhw'n teimlo'n boeth neu'n gyfforddus, gallech chi geisio diffodd y gwres ychydig yn gynharach.  Gallech gofnodi tymereddau ystafell ddosbarth bob awr yn ystod y dydd, ac yna gweithio allan a oes angen i’r gwres ddod ymlaen neu ddiffodd yn gynt neu’n hwyrach.  Efallai nad oes angen iddo aros ymlaen drwy'r dydd.

Cofiwch mai’r tymereddau a argymhellir ar gyfer ysgolion yw:

  • Amgylchedd addysgu arferol - 18°C
  • Mannau cylchrediad (e.e. coridorau) - 15°C
  • Ardaloedd â lefelau uchel o weithgarwch (e.e. neuaddau chwaraeon) - 15°C
  • Ardaloedd â lefelau isel o weithgarwch - 21°C
  • Ysgolion anghenion arbennig neu ardaloedd gyda phlant ifanc iawn - 21°C

Os yw anghenion gwresogi yn amrywio drwy gydol y dydd a’r wythnos, efallai oherwydd clybiau ar ôl ysgol ar rai dyddiau, adolygwch osodiadau amser eich ysgol bob mis i wirio eu bod yn cyd-fynd â’r amseroedd pan fo angen gwresogi. Os oes angen i chi wneud addasiadau tymor byr i'ch system, peidiwch ag anghofio eu newid yn ôl. Bydd gosod amserydd saith diwrnod yn caniatáu ar gyfer gwahanol gosodiadau ar gyfer pob diwrnod o'r wythnos, sy'n berffaith ar gyfer pan nad yw'r ysgol yn cael ei defnyddio dros y penwythnos a gwyliau.
Cyfeiriwch eich gofalwr tuag at ein gweithredoedd system wresogi yma am arweiniad pellach ac awgrymiadau neu gamau y gall eu cymryd.
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i Sbarcynni weithio. Hoffem hefyd ddefnyddio cwcis dadansoddol fel y gallwn ddeall sut rydych yn defnyddio'r gwasanaeth a gwneud gwelliannau. Dysgu rhagor

Dolenni Cyflym

  • Gweithgareddau
  • Gweithredoedd
  • Gweld ysgolion
  • Byrddau sgorio
  • Cysylltu

Gwasanaethau

  • Archwiliadau ynni
  • Gweithdai addysg
  • Hyfforddiant
  • Dysgu rhagor
  • Archebwch demo
  • Astudiaethau achos

Dolenni Eraill

  • Swyddi
  • Blog
  • Ystadegau ysgolion
  • Setiau data
  • Agor data

Termau Cyfreithiol

  • Telerau ac amodau
  • Polisi preifatrwydd
  • Cwcis
  • Polisi diogelu plant

Cofrestru am y Cylchlythyr

Cael y newyddion diweddaraf gan Sbarcynni yn eich mewnflwch Ni fyddwn byth yn rhannu eich e-bost ag unrhyw un arall.
Cyhoeddir cynnwys ar y wefan hon o dan Drwydded Creative Commons Attribution 4.0.
Mae Sbarcynni yn elusen gofrestredig yng Nghymru a Lloegr, cofrestriad 1189273.