Penodi monitoriaid ynni disgyblion ym mhob dosbarth

Gall monitoriaid ynni ym mhob dosbarth gyflawni detholiad o weithgareddau monitro yn rheolaidd megis gwirio tymheredd yr ystafell ddosbarth a gwirio i weld a yw goleuadau ac offer trydanol yn cael eu gadael ymlaen ar ôl ysgol.

5 CA1 CA2 CA3 CA4 CA5 Dinasyddiaeth
Disgyblion - gallech chi gael effaith enfawr ar faint o ynni mae 'ch ysgol yn ei ddefnyddio a'r carbon mae'n ei gynhyrchu dim ond drwy ddylanwadu ar ymddygiad disgyblion eraill ac oedolion yn yr ysgol!

Mae yna lawer o ffyrdd o wneud hyn.  Yn ogystal â chreu Tîm Ynni o unigolion ymroddedig sydd â chyfrifoldeb am y Gynllun Ynni cyffredinol, gallech gynnwys mwy o ddisgyblion drwy benodi Monitoriaid Ynni ar gyfer pob dosbarth.  Gallant gyflawni detholiad o weithgareddau monitro yn rheolaidd megis:

  1. Hapwiriadau o dymheredd ystafell ddosbarth
  2. Hapwiriadau i weld a oes goleuadau / eitemau trydanol yn cael eu gadael ymlaen amser cinio
  3. Hapwiriadau i weld a oes goleuadau / TG ​​ymlaen ar ôl ysgol
  4. Hapwiriadau o osodiadau thermostat yr ysgol
  5. Monitro a yw oedolion / disgyblion yn gwisgo dillad cynhesach y tu mewn i adeilad yr ysgol yn ystod y gaeaf
  6. Monitro a yw drysau / ffenestri allanol ar gau yn ystod tywydd oer

Gall disgyblion o bob oed ddod yn  ‘dditectifs’ i weld a oes goleuadau, byrddau gwyn ac offer wedi cael eu gadael ymlaen yn ddiangen, ac atgoffa eu ffrindiau a’u hathrawon i’w diffodd. Pan fydd gwres yr ysgol ymlaen, gellir gwneud disgyblion yn gyfrifol am sicrhau nad yw drysau a ffenestri’n cael eu gadael ar agor. Yn dibynnu ar system wresogi eich ysgol, efallai y byddan nhw hefyd yn gallu monitro tymheredd yr ystafell ddosbarth a sicrhau bod rheolyddion thermostatig yn cael eu defnyddio i sicrhau’r tymheredd gorau posibl ar gyfer dysgu. 

Ystyriwch gynnal y gweithgareddau monitro hyn bob dydd pan fyddwch chi'n dechrau, ac yna symudwch i fonitro wythnosol i sicrhau bod unrhyw welliannau yn cael eu cynnal:

Mae'r holl weithgareddau monitro hyn yn cyd-fynd â gweithgareddau eraill Sbarcynni, felly gallwch chi ennill dwywaith y pwyntiau drwy benodi monitoriaid ynni ysgol.