Fy effaith ar yr amgylchedd

Gweithgaredd i gael plant CA1 i feddwl am eu hôl troed amgylcheddol

10 CA1 Dinasyddiaeth Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Bydd angen:
  • papur siwgr
  • pensiliau
  • siswrn

Gall y cysyniad o ôl troed carbon fod yn rhy haniaethol i blant iau. Ar gyfer y gweithgaredd hwn gallwch feddwl am eich effaith amgylcheddol yn lle hynny - felly nid oes angen cyfyngu awgrymiadau i rai sy'n allyrru carbon. 

Cynorthwywch y disgyblion i dynnu llun o amgylch  eu traed ar ddarn o bapur siwgr.  Efallai y bydd yn haws iddynt dynnu llun o amgylch troed partner, neu eu hesgid, neu gallech hefyd ddefnyddio templed iddynt ei dorri allan.

Ar un ochr i'r ôl troed, tynnwch lun o'r pethau maen nhw'n eu gwneud sy'n cael effaith niweidiol ar yr amgylchedd.

Ar y llall tynnwch y pethau y gallant eu gwneud i ofalu am yr amgylchedd.

Hongiwch y rhain o'r nenfwd neu eu harddangos yn yr ystafell ddosbarth i atgoffa plant o'r dewisiadau amgylcheddol da y gallant eu gwneud.

Gweithgaredd dilynol
Gallech ddilyn y gweithgaredd hwn gyda Deall sut mae ein hallyriadau carbon yn achosi'r Effaith Tŷ Gwydr a'r Newid yn yr Hinsawdd sy'n canolbwyntio mwy ar ran carbon yr ôl troed carbon.