Mae'r adran hon yn rhoi dadansoddiad manylach o ddefnydd nwy eich ysgol y tu allan i oriau ysgol a rhai pethau i gadw llygad amdanynt. Er mwyn rheoli ynni'n dda, rydych am i'r rhan fwyaf o'ch defnydd ynni fod pan fydd yr ysgol ar agor.
Mae'r tabl isod yn dangos faint o nwy a ddefnyddiwyd pan mae'r ysgol ar agor neu ar gau ar ddiwrnod ysgol yn ogystal ag ar benwythnosau a gwyliau.
Amser defnydd | kWh | £ (ar y tariff presennol) | kg/co2 | Canran |
---|---|---|---|---|
Gwyliau | 52,000 | £2,700 | 9,400 | 8.9% |
Penwythnos | 57,000 | £3,000 | 10,000 | 9.9% |
Diwrnod Ysgol Ar Agor | 200,000 | £11,000 | 37,000 | 35% |
Diwrnod Ysgol Ar Gau | 270,000 | £14,000 | 49,000 | 46% |
Cyfanswm | 580,000 | £31,000 | 110,000 | 100% |
Er mwyn deall pam mae eich ysgol yn defnyddio gormod o nwy y tu allan i oriau ysgol, edrychwch yn gyntaf ar ddefnydd nwy yn ôl diwrnod yr wythnos.
Ar gyfer y rhan fwyaf o ysgolion, ni ddylai fod unrhyw ddefnydd o nwy ar benwythnosau. Yr unig reswm y gellid defnyddio nwy yw i amddiffyn rhag rhew mewn tywydd oer iawn, ac ar gyfartaledd ar draws y flwyddyn gyfan dylai hyn fod yn gyfran fach iawn o ddefnydd wythnosol.
I rai ysgolion, mae mwy o ddefnydd o nwy ar ddydd Llun a dydd Mawrth na dydd Mercher, dydd Iau a dydd Gwener, gan fod angen ynni ychwanegol i gynhesu ysgol ar ôl i'r gwres gael ei ddiffodd ar benwythnosau. Mae'r egni hwn yn cael ei amsugno i'r gwaith maen.Mae 'màs thermol' yn disgrifio gallu deunydd i amsugno, storio a rhyddhau gwres. Er enghraifft, mae gan goncrit gynhwysedd uchel i storio gwres a chyfeirir ato fel deunydd 'màs thermol uchel'. Mewn cyferbyniad, ychydig iawn o gapasiti storio gwres sydd gan ewyn inswleiddio a chyfeirir ato fel un sydd â 'màs thermol isel'.
Mae'n dal yn llawer mwy effeithlon diffodd y gwres dros y penwythnos, a defnyddio ychydig mwy o ynni ar ddydd Llun a dydd Mawrth nag ydyw i adael y gwres ymlaen drwy'r penwythnos.Os yw'r graff yn dangos defnydd uchel o nwy ar benwythnosau, gofynnwch i'ch gofalwr neu reolwr eich adeilad wirio rheolaethau eich system wresogi. Efallai bod gennych chi:
Trwy ddileu'r defnydd o nwy ar y penwythnos yn eich ysgol gallech arbed hyd at £11,000 (200,000kWh) y flwyddyn.
Mae'r graff hwn yn dangos sut mae defnydd nwy'r ysgol yn amrywio ar ddiwrnodau ysgol pan fo'r gwres ymlaen yn y gaeaf rhwng 10 Maw 2024 a 10 Maw 2025 (wedi'i gydgrynhoi ar draws y flwyddyn gyfan).
Mae hwn yn graff defnyddiol ar gyfer pennu pa mor dda y caiff amseriad y boeler ei reoli. Efallai y bydd llawer o ddefnydd o nwy y tu allan i oriau arferol oherwydd bod boeler yn dod ymlaen yn rhy gynnar yn y bore.
Gweler y dudalen cyngor rheoli gwresogi am ragor o wybodaeth.
Gall y siart hwn helpu eich ysgol i gymharu'r defnydd o nwy yn ystod gwyliau
Mae’r tabl isod yn dangos crynodeb o’ch defnydd nwy gwyliau’r ysgol y llynedd. Mae'n cynnwys defnydd ynni cyfartalog y dydd i alluogi cymhariaeth ar gyfer gwyliau o hyd gwahanol.
Gwyliau | Cyfnod | Defnyddio (kWh) | Defnydd dyddiol ar gyfartaledd (kWh) | Cost (£) | CO2 (kg) |
---|---|---|---|---|---|
Hanner tymor yr haf | 27 Mai 2023 i 04 Meh 2023 | 436 | 48.4 | £8.18 | 79.6 |
25 Mai 2024 i 02 Meh 2024 | 346 | 38.5 | £18.30 | 63.2 | |
% gwahaniaeth | -21% | -21% | +120% | -21% | |
Haf | 22 Gorff 2023 i 03 Medi 2023 | 353 | 8.02 | £6.62 | 64.4 |
24 Gorff 2024 i 03 Medi 2024 | 580 | 13.8 | £30.80 | 106 | |
% gwahaniaeth | +64% | +72% | +360% | +64% | |
Hanner tymor yr hydref | 28 Hyd 2023 i 05 Tach 2023 | 17,300 | 1,930 | £325 | 3,160 |
26 Hyd 2024 i 03 Tach 2024 | 335 | 37.2 | £17.80 | 61.1 | |
% gwahaniaeth | -98% | -98% | -95% | -98% | |
Nadolig | 22 Rhag 2023 i 07 Ion 2024 | 20,600 | 1,210 | £1,090 | 3,760 |
21 Rhag 2024 i 05 Ion 2025 | 16,800 | 1,050 | £892 | 3,070 | |
% gwahaniaeth | -18% | -13% | -18% | -18% | |
Hanner tymor y gwanwyn | 17 Chwe 2024 i 25 Chwe 2024 | 16,000 | 1,770 | £846 | 2,910 |
15 Chwe 2025 i 23 Chwe 2025 | 25,400 | 2,820 | £1,350 | 4,640 | |
% gwahaniaeth | +59% | +59% | +59% | +59% | |
Pasg | 30 Maw 2024 i 14 Ebr 2024 | 6,820 | 426 | £362 | 1,250 |
05 Ebr 2025 i 21 Ebr 2025 | dim digon o ddata |
Sylwer: Nid yw'r tabl uchod wedi'i addasu ar gyfer newidiadau mewn tymheredd allanol, felly gallai'r newidiadau % yn y defnydd o nwy fod yn wahanol i'r rhai yn negeseuon rhybudd eich ysgol.
Byddai disgwyl i wyliau'r gaeaf gael defnydd uwch o nwy oherwydd gosodiadau amddiffyn rhag rhew.
Cyfrifiadau yn seiliedig ar Nwy a ddefnyddiwyd rhwng 11 Mai 2021 a 10 Maw 2025
Defnyddir y nodwedion canlynol wrth ddadansoddi data ynni eich ysgol. Mae iawndal tymheredd yn defnyddio data tywydd sy'n benodol i leoliad eich ysgol.
Nodwedd | Gwerth |
---|---|
Arwynebedd llawr | 10239.0m2 |
Lleoliad | DE75 7RA (-1.370939, 53.011039) |
Disgyblion | 1354 |
Math | Uwchradd |
Amcangyfrifir costau defnydd ar sail gwybodaeth tariff hanesyddol
Mae arbedion yn y dyfodol yn seiliedig ar wybodaeth tariff ddiweddaraf eich ysgol
Mae arbedion cost posibl a ddyfinnir mewn cymariaethau ysgol, e.e. ar gyfer ysgolion tebyg sydd wedi'u "rheoli'n dda" ac "enghreifftiol" hefyd yn seiliedig ar dariffau cyfredol eich ysgol
Mae cymhariaethau ysgol yn seilied ar feincnodi eich ysgol ag ysgolion tebyg ar sail y nodweddion a amlinellir isod.
Mae ysgolion "enghreifftiol" yn cynyrchioli'r 17.5% uchaf o ysgolion Sbarcynni
Mae ysgolion "a reolir yn dda" yn cynrychioli'r 30% uchaf o ysgolion Sbarcynni