Mae'n gyffredin iawn i ystafelloedd dosbarth gael y gwres ymlaen a ffenestri a drysau ar agor ar gyfer awyr iach neu oeri. Mae hyn yn wastraff mawr o ynni! Mae diffodd rheiddiaduron yn gyntaf cyn i chi agor ffenestri a drysau yn bwysig iawn.
Allwch chi redeg ymgyrch i gael pawb yn yr ysgol i gofio bob amser gadw ffenestri a drysau ar gau pan fydd y gwres ymlaen? Cofiwch y gallwch chii leihau tymheredd ystafell ddosbarth gan ddefnyddio thermostatau gwresogi a rheolyddion boeleri yn hytrach nag agor drysau a ffenestri.
Pethau i'w hystyried wrth gynllunio eich ymgyrch:
- Pwy fydd yn gyfrifol am gau drysau a ffenestri? A all disgyblion a staff wneud hyn?
- Sut byddwch chi'n hyrwyddo'ch ymgyrch? Sut byddwch chi'n rhoi gwybod i ddosbarthiadau eraill beth maen nhw i fod i'w wneud a pham?
- Pwy fydd yn monitro a yw drysau a ffenestri ar gau? A fydd gennych fonitoriaid ynni dosbarth neu a fydd eich tîm Ynni neu Eco yn cynnal hapwiriadau bob dydd?
- Sut byddwch chi'n cofnodi eich canfyddiadau?
- Sut cyddwch chi'n rhannu gyda gweddill yr ysgol pa mor dda rydych chi'n gwneud?
- Sut byddwch chi'n gwobrwyo perfformiad da?
Cofiwch: Mae cael y tymheredd yn iawn yn yr ystafell ddosbarth yn bwysig; rhy boeth a bydd pawb yn cwympo i gysgu a ddim yn dysgu, rhy oer a byddwn yn crynu, a rhaid rhoi siwmperi ychwanegol ymlaen.
Y tymereddau gorau ar gyfer ysgolion yw:
- Dosbarthiadau arferol: 18°C
- Coridorau: 15°C
- Ardaloedd â lefelau uchel o weithgarwch (e.e. neuaddau chwaraeon): 15°C
- Ardaloedd â lefelau isel o weithgarwch: 21°C
- Ysgolion anghenion arbennig neu ardaloedd gyda phlant ifanc iawn: 21°C