Mae'r adran hon yn rhoi dadansoddiad manylach o sut mae defnydd nwy eich ysgol wedi newid yn ddiweddar. Gall fod yn arbennig o ddefnyddiol os ydych yn ceisio ymchwilio i newid yn y defnydd o nwy neu fonitro effaith camau a gymerwyd yn yr ysgol.
Mae'r adran canlynol yn dangos fwy o gefndir a dadansoddiad ar eich lwyth sylfaenol o nwy
Mae'r siart yn defnyddio'r ddwy wythnos ddiwethaf sydd ar gael yn llawn yn awtomatig. Defnyddiwch yr opsiynau o dan y siart i gymharu wythnosau amgen.
Mae'r siart yn defnyddio'r ddiwrnodau diweddaraf sydd ar gael yn awtomatig. Defnyddiwch yr opsiynau o dan y siart i gymharu dyddiau amgen.
Mewn ysgol sydd â system gwresogi sy'n gweithio'n dda (boeler da, pibellau da ar gyfer darparu gwres, rheiddiaduron digon mawr, ac inswleiddio rhesymol), efallai y byddwch yn disgwyl i'r gwres droi ymlaen tua 6am, ac ar ei uchaf am y 2 awr nesaf tra bod yr ysgol yn cael ei chynhesu, ac yna'n lleihau'n raddol yn ystod y dydd. Yn y rhan fwyaf o ysgolion byddai'r gwres a gynhyrchir gan offer trydan a 30 o ddisgyblion mewn ystafell ddosbarth yn awgrymu mai ychydig iawn o wres ychwanegol o foeler yr ysgol sydd ei angen ar ystafelloedd dosbarth, unwaith y bydd y disgyblion yn cyrraedd.
Os oes gan y boeler 'reolaeth cychwyn optimaidd' wedi'i ffurfweddi, efallai y byddwch yn sylwi ar amser cychwy y boeler yn newid yn awtomatig - o efallai 6:30am mewn tywydd mwynach i gynharad e.e. 4:30pm mewn tywydd oerach. Mewn tywydd oer iawn efallai y byddwch yn sylwi ar y gwres yn dod ymlaen 'ar hap' - mae hyn yn fwyaf tebygol o amddiffyniad rhag rhew - y boeler yn troi'r system wresogi ymlaen i atal pibellau'r ysgol rhag rhewi.
Mae'r siart yn defnyddio'r saith diwrnod diweddaraf sydd ar gael yn awtomatig. Defnyddiwch y botymau archwilio uwchben y siart i gymharu dyddiau amgen. Gallwch glicio ar y chwedl i ychwanegu neu dynnu llinellau o'r graff i'w gwneud yn gliriach.
Gallwch ddefnyddio’r math hwn o siart i ddeall sut mae defnydd nwy yr ysgol yn amrywio drwy gydol yr wythnos.
Dyddraddau yw'r gwrthdro tymheredd. Po uchaf yw'r dyddraddau, yr isaf yw'r tymheredd.Gweler esboniad manylach. Os yw'r boeler gwresogi yn gweithio'n dda yn eich ysgol, dylai dyddraddau olrhain y defnydd o nwy yn eithaf agos.