Lluniwch eich system eich hun i gofnodi'r perfformiad ym mhob dosbarth neu adran neu defnyddiwch ein taflenni cofnodi (o'r gweithgareddau uchod).
Mae rhai ysgolion yn defnyddio:
systemau tocyn - yn dangos perfformiad da gyda thocyn gwyrdd mewn pot yn y dosbarth a chofnodi perfformiad gwael gyda thocyn coch mewn pot arall. Mae hyn yn creu golwg weledol o berfformiad dosbarth. Bydd y dosbarth sydd â'r nifer fwyaf o docynnau gwyrdd ar ddiwedd cyfnod o amser y cytunwyd arno yn cael gwobr.
siartiau sticer fel y gellir olrhain perfformiad unigol bob dydd
yn electronig drwy siartiau a rennir mewn gwasanaethau
Sut allech chi wobrwyo dosbarthiadau sy'n gwneud eu gorau i leihau gwastraff ynni?
Gallai gwobrau ar gyfer y dosbarthiadau sy’n perfformio orau amrywio o dlws Arbedwr Ynni’r Mis, i wobrau cost isel ar thema’r amgylchedd fel pecynnau o hadau i’w defnyddio mewn gardd ysgol, mynd ar daith natur/bywyd gwyllt dosbarth ac ati. Mae rhai ysgolion uwchradd wedi gwobrwyo'r adran sy'n perfformio orau gydag arian ychwanegol ar gyfer adnoddau!
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i Sbarcynni weithio. Hoffem hefyd ddefnyddio cwcis dadansoddol fel y gallwn ddeall sut rydych yn defnyddio'r gwasanaeth a gwneud gwelliannau.
Dysgu rhagor