Using the Energy sparks data, we found we were using as much gas when the school was closed as when it was open. The heating was coming on at midnight and despite many attempts to set the controls, it could not be rectified. On the date above, an engineer fitted an additional controller which interrupts the main control if it tries to switch on out of the time zones set. This should save us around £200 per week in winter months.
Disgrifiad o'r gweithgaredd
Un o'r ffyrdd hawsaf o arbed arian i'ch ysgol a gostwng ei hôl-troed carbon yw sicrhau bod gwres yr ysgol dim ond wedi'i gynnau pan fo angen iddi fod yn gynnes! Yn gyffredinol, nid oes angen gwresogi ysgolion yn llawn ar benwythnosau neu wyliau os nad oes neb yno.
Nwy yw'r ffynhonnell ynni mwyaf cyffredin ar gyfer gwresogi ysgolion, er mae rhai ysgolion yn defnyddio trydan neu olew ar gyfer gwresogi. Mae boeler nwy yn gweithio trwy losgi nwy i wresogi dŵr, sydd wedyn yn cael ei bwmpio o amgylch yr ysgol i wresogi'r rheiddiaduron.
Mae gwres llawer o ysgolion yn cynnau yn rhy gynnar yn y bore. Yn gyffredinol nid oes angen i foeleri ysgol fod ymlaen cyn 5am mewn tywydd oer a 7am pan fydd y tywydd yn fwynach. Os yw gwres eich ysgol yn cynnau cyn hyn, efallai y bydd modd gwneud newidiadau i reolyddion y gwres i arbed ynni a llawer o arian. Mae Sbarcynni yn neilltuo amseroedd agor a chau diofyn ar gyfer eich ysgol. Gall eich Eiriolwr Ynni addasu'r rhain trwy fynd i Reoli ysgol/Rheoli amseroedd ysgol.
Edrychwch ar y ddau graff canlynol ar ddefnydd nwy ysgolion Sbarcynni i weld a allwch chi ateb y cwestiynau canlynol.
Graff A. Ysgol Uwchradd L A1. Pa bryd ydych chi'n meddwl y mae pobl yn adeiladau'r ysgol? A2. Ar ba amser/amseroedd y mae defnydd nwy yn uchel (dros £6) A3. Beth mae'r boeler yn ei wneud pan fydd yr ysgol ar gau? A4. A oes unrhyw gwestiynau y mae angen i chi eu gofyn i bobl eraill am y data hwn (meddyliwch am bwy sy'n defnyddio'r ysgol a phryd)? 5. Ydych chi'n meddwl bod y boeler hwn yn gweithio'n effeithiol? Pam neu pam ddim?
Graff B. Ysgol Gynradd SP
B1. Pa bryd ydych chi'n meddwl y mae pobl yn adeiladau'r ysgol? B2. Ar ba amser/amseroedd y mae defnydd nwy yn uchel (dros £6) B3. Beth y mae'r boeler yn ei wneud pan mae'r ysgol ar gau? B4. A oes unrhyw gwestiynau y mae angen i chi ofyn i bobl eraill am y data hwn (meddyliwch am bwy sy'n defnyddio'r ysgol a phryd)? B5. A ydych chi'n meddwl bod y boeler hwn yn gweithio'n effeithiol? Pam neu pam ddim?
C1. Pa ysgol sydd â system reoli gwres gwell? C2. Pe fyddech chi'n Archwilydd Ynni, pa argymhellion fyddech chi'n eu gwneud ar gyfer Ysgol Uwchradd L. C3. A allech chi wneud unrhyw argymhellion i Ysgol Gynradd SP?
* Mae diwrnodau gradd (y llinell ddu) yn fesur o faint y mae'n rhaid i'r boeler ei weithio i gynnal tymheredd addas. Mae ychydig yn debyg i wrthdroi tymheredd. Po isaf yw'r darlleniad diwrnod gradd, y cynhesaf yw'r tymheredd ar yr adeg honno.
Nawr edrychwch ar y graff canlynol o ddefnydd nwy eich ysgol i weld a allwch chi ateb y cwestiynau canlynol.
Newid unedau
Archwilio
Nid oes gennym ddigon o ddata ar hyn o bryd i arddangos y siart hwn
Pryd mae'r gwres yn dod ymlaen gyntaf yn y bore, ac yn diffodd yn y prynhawn?
Pryd mae'r defnydd o nwy yn uchel?
Beth mae'r boeler yn ei wneud pan fydd yr ysgol ar gau?
A oes unrhyw gwestiynau y mae angen i chi eu gofyn i bobl eraill am y data hwn?
Ydych chi'n meddwl bod eich boeler yn gweithio'n effeithiol? Pam neu pam ddim?
Gofynnwch i'ch gofalwr - A yw'r gwres wedi'i osod i ddod ar amser penodol bob dydd neu a yw'r cychwyn gorau wedi'i osod fel bod yr amser cychwyn yn cael ei addasu yn dibynnu ar y tymheredd?
Faint allech chi ei arbed pe baech yn lleihau faint o nwy a ddefnyddir pan fydd yr ysgol ar gau? Bydd angen i’ch ysgol ddefnyddio rhywfaint o nwy cyn dechrau’r diwrnod ysgol bob amser, fel ei bod yn gynnes pan fydd athrawon a disgyblion yn cyrraedd, ond gallai’r rhan fwyaf o ysgolion leihau faint o nwy y maent yn ei ddefnyddio.
Edrychwch ar y defnydd o nwy dros y penwythnos a gwyliau. Ydych chi'n defnyddio'r un faint o nwy ar ddiwrnodau pan fydd yr ysgol ar gau? Ydy pobl yn yr adeilad? Os felly, ble maen nhw? Sut allech chi gynhesu'r ardaloedd hynny heb wresogi'r ysgol gyfan?
Yn seiliedig ar eich dadansoddiad o system wresogi sy’n cael ei rheoli’n wael a’i rheoli’n dda, pa gamau y mae angen i chi eu cymryd yn eich ysgol yn eich barn chi?
Gwybodaeth uwch
Mae gan y rhan fwyaf o ysgolion mwy nodwedd ar reolydd y boeler o'r enw 'rheolydd dechrau optimaidd' sy'n cynnau'r boeler yn awtomatig yn gynt yn y diwrnod mewn tywydd oer ac yn ddiweddarach yn y dydd mewn tywydd cynhesach. Ond, mewn sawl ysgol nid yw'r awtomatiaeth hon yn gweithio'n iawn, ac mae'n diffodd y boeler yn rhy gynnar. Yr achos mwyaf cyffredin yw os yw'r thermostat y boeler wedi'i leoli mewn ardal oer o'r ysgol megis cyntedd neu goridor yr ysgol. Mae thermostat y boeler yn dweud wrth y boeler beth yw tymheredd yr ysgol. Os yw'r thermostat mewn ardal lle nad oes digon o reiddiaduron neu'n agos at ddrws sy'n aml ar agor, yna ni fydd y thermostat byth yn cyrraedd y tymheredd sydd wedi'i osod ar y gwres. Mae hyn yn golygu ei fod yn dweud wrth y gwres i gynnau yn gynt ac yn gynt yn y bore, wrth i'r ystafelloedd dosbarth gynhesu a chynhesu. Fe allech ofyn i ofalwr yr ysgol geisio symud thermostat y boeler i ardal arall yn yr ysgol neu osod y thermostat ar dymheredd is.
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i Sbarcynni weithio. Hoffem hefyd ddefnyddio cwcis dadansoddol fel y gallwn ddeall sut rydych yn defnyddio'r gwasanaeth a gwneud gwelliannau.
Dysgu rhagor