Cynhaliwch wasanaeth rheolaidd am arbed ynni

Syniadau i'w cynnwys mewn gwasanaethau rheolaidd i atgoffa pawb yn yr ysgol am bwysigrwydd arbed ynni

10 CA1 CA2 CA3 CA4 CA5 Dinasyddiaeth Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu Mathemateg a Rhifedd
Nawr eich bod yn gweithio gyda Sbarcynni, cynhaliwch wasanaethau  arbed ynni rheolaidd i atgoffa pawb yn yr ysgol am bwysigrwydd arbed ynni a'ch cynnydd tuag at eichtarged arbed ynni

Dyma rai syniadau am yr hyn y gallech ei rannu yn eich gwasanaethau. Mae llawer o’r awgrymiadau hyn yn gysylltiedig â gweithgaredd Sbarcynni arall, felly gallwch sgorio pwyntiau dwbl ar gyfer eich gwaith:

  • Adolygwch y siartiau defnydd ynni Sbarcynni ar gyfer eich ysgol. Cyflwynwch rai o'r siartiau Sbarcynni mewn gwasanaeth. Eglurwch i’r disgyblion beth mae’r siartiau’n ei ddangos o ran y prif ddefnyddiau o ynni yn eich ysgol, a gofynnwch i’r disgyblion am syniadau ar sut y gallech chi arbed ynni. Defnyddiwch y gwasanaeth i gyflwyno cynllun gweithredu i leihau'r defnydd o ynni. Cyflwynwch wasanaeth dilynol  ar ôl mis i gyflwyno siartiau Sbarcynni sy'n dangos y newid ers y gwasanaeth diwethaf, a thrafod ffyrdd pellach y gallech chi leihau'r defnydd o ynni.