Energy Sparks team ran an assembly to explain how Energy Sparks works, what our readings were and gave examples of how to improve them.
Disgrifiad o'r gweithgaredd
Nawr eich bod yn gweithio gyda Sbarcynni, cynhaliwch wasanaethau arbed ynni rheolaidd i atgoffa pawb yn yr ysgol am bwysigrwydd arbed ynni a'ch cynnydd tuag at eichtarged arbed ynni.
Dyma rai syniadau am yr hyn y gallech ei rannu yn eich gwasanaethau. Mae llawer o’r awgrymiadau hyn yn gysylltiedig â gweithgaredd Sbarcynni arall, felly gallwch sgorio pwyntiau dwbl ar gyfer eich gwaith:
Adolygwch y siartiau defnydd ynni Sbarcynni ar gyfer eich ysgol. Cyflwynwch rai o'r siartiau Sbarcynni mewn gwasanaeth. Eglurwch i’r disgyblion beth mae’r siartiau’n ei ddangos o ran y prif ddefnyddiau o ynni yn eich ysgol, a gofynnwch i’r disgyblion am syniadau ar sut y gallech chi arbed ynni. Defnyddiwch y gwasanaeth i gyflwyno cynllun gweithredu i leihau'r defnydd o ynni. Cyflwynwch wasanaeth dilynol ar ôl mis i gyflwyno siartiau Sbarcynni sy'n dangos y newid ers y gwasanaeth diwethaf, a thrafod ffyrdd pellach y gallech chi leihau'r defnydd o ynni.
Cyflwynwch rywfaint o’r data rydych wedi’i gasglu yn eich ysgol eich hun, drwy eich ymgyrchoedd monitro, er enghraifft:
Lluniwch eich siartiau eich hun i gyflwyno’r data, ac yna cyflwynwch wasanaeth i ddweud wrth eich cynulleidfa beth yw ystyr eich canlyniadau, a beth allai’r ysgol ei wneud nesaf i leihau ei defnydd o ynni.
Defnyddiwch wasanaethau i gyflwyno polisïau ynni newydd i weddill yr ysgol, er enghraifft:
Gellir defnyddio’r gwasanaeth i rannu pam eich bod yn cyflwyno’r polisi, pwy sy’n gyfrifol am y camau gweithredu, sut y byddwch yn monitro sut mae’r ysgol yn gwneud ac yna i adrodd yn ôl a yw’r polisi’n gwneud gwahaniaeth.
Gellir defnyddio gwasanaethau hefyd i lansio ymgyrchoedd arbed ynni yn eich ysgol, er enghraifft:
We use some essential cookies to make Energy Sparks work. We'd also like to use analytics cookies so we can understand how you use the service and make improvements.
Learn more