Dadansoddwch ddefnydd ynni eich ysgol - adolygu amseriadau gwresogi
Ysgol Bro Ingli, Monday, 22 January 2024 10DadansoddwrKS1, KS2, KS3, KS4, KS5
What you did
Disgrifiad o'r gweithgaredd
Un o'r ffyrdd hawsaf o arbed arian i'ch ysgol a gostwng ei hôl-droed carbon yw sicrhau bod yr ysgol dim ond wedi'i gynnau pan fo angen iddi fod yn gynnes! Yn gyffredinol, nid oes angen gwresogi ysgolion yn llawn ar benwythnosau neu wyliau os nad oes neb i mewn
Nwy yw'r ffynhonnell ynni mwyaf cyffredin ar gyfer gwresogi ysgolion, er mae rhai ysgolion yn defnyddio trydan neu olew ar gyfer gwresogi. Mae boeler nwy yn gweithio trwy losgi nwy i wresogi dŵr, sydd wedyn yn cael ei bwmpio o amgylch yr ysgol i wresogi'r rheiddiaduron
Mae gwres llawer o ysgolion yn cynnau yn rhy gynnar yn y bore. Yn gyffredinol nid oes angen i foeleri ysgol fod yn cynnau cyn 5am mewn tywydd oer a 7am pan fydd y tywydd yn fwynach. Os yw gwres eich ysgol yn cynnau cyn hyn, efallai y bydd modd gwneud newidiadau i reolyddion y gwres i arbed ynni a llawer o arian Mae Energy Sparks yn neilltuo amserau agor a chau diofyn ar gyfer eich ysgol. Gall eich Eiriolwr Ynni addasu'r rhain trwy fynd i Reoli Ysgol/Amserau Rheoli Ysgol.
Edrychwch ar y ddau graff a ganlyn ar ddefnydd nwy ysgolion Energy Sparks i weld a allwch chi ateb y cwestiynau a ganlyn.
Graff A. Ysgol Uwchradd L A1. Pa bryd ydych chi'n meddwl y mae pobl yn adeiladau'r ysgol? A2. Ar ba amser/amseroedd y mae defnydd nwy yn uchel (dros £6 A3. Beth mae'r boeler yn ei wneud pan fydd yr ysgol ar gau? A4. A oes unrhyw gwestiynau y mae angen i chi eu gofyn i bobl eraill am y data hwn (meddwl am bwy sy'n defnyddio'r ysgol a phryd)? A5. Ydych chi'n meddwl bod y boeler hwn yn gweithio'n effeithiol? Pam neu pam lai?
Graff B. Ysgol Gynradd SP
B1. Pa bryd wyt ti'n meddwl y mae pobl yn adeiladau'r ysgol? B2. Ar ba amser/amseroedd y mae defnydd nwy yn uchel (dros £2) B3. Beth y mae'r boeler yn ei wneud pan mae'r ysgol ar gau? B4. A oes unrhyw gwestiynau y mae angen iti ofyn i bobl eraill am y data hwn (meddylia am bwy sy'n defnyddio'r ysgol a phryd)? B5. A ydych chi'n meddwl bod y boeler hwn yn gweithio'n effeithiol? Pam neu pam lai?
C1. Pa ysgol sydd â system reoli gwres gwell? C2. Pe fyddech chi'n Archwilydd Ynni, pa argymhellion fyddech chi'n eu gwneud ar gyfer Ysgol Uwchradd L. C3. A allech chi wneud unrhyw argymhellion i Ysgol Gynradd SP?
* Mae dyddiau gradd (y llinell ddu) yn mesur pa mor galed y mae'r boeler yn gorfod gweithio i gynnal tymheredd addas. Mae ychydig fel gwrthdori tymheredd. Po isaf yw darlleniad y diwrnod gradd, y cynhesaf yw'r tymheredd ar y pryd hwnnw
Nawr edrychwch ar y graff a ganlyn o ddefnydd nwy yr ysgol a gweld a allwhc chi ateb y cwestiynau canlynol.
Newid unedau
Archwilio
Nid oes gennym ddigon o ddata ar hyn o bryd i arddangos y siart hwn
Pa bryd y mae'r gwres yn cynnau gyntaf yn y bore, ac yn diffodd yn y prynhawn?
Pa bryd y mae defnydd nwy yn uchel?
Beth y mae'r boeler yn ei wneud pan mae'r ysgol ar gau?
A oes unrhyw gwestiynau y mae angen iti eu gofyn i bobl eraill am y data hwn?
Ydych chi'n meddwl bod y boeler yn gweithio'n effeithiol? Pam neu pam lai?
Gofynnwch i'ch gofalwr - A yw'r gwers yn cynnau ar amser penodol bob dydd neu a yw dechrau optimwm wedi'i osod fel bod yr amser dechrau yn cael ei addasu gan ddibynnu ar y tymheredd?
Faint y gallai'r ysgol ei arbed pe bai modd gostwng faint o nwy sy'n cael ei ddefnyddio pan mae'r ysgol ar gau? Bydd angen i'ch ysgol ddefnyddio ychydig o nwy cyn dechrau'r diwrnod ysgol, fel bod yr ysgol yn gynnes pan fydd yr athrawon a'r disgyblion yn cyrraedd, ond gallai'r rhan fwyaf o ysgolion ostwng faint o nwy maen nhw'n ei ddefnyddio.
Edrychwch ar y defnydd nwy dros y penwythnos ar yn ystod y gwyliau. Yw'r ysgol yn defnyddio'r un faint o nwy ar ddyddiau pan mae'r ysgol ar gau? A oes pobl yn yr adeilad bryd hynny? Os ydynt, ym mha ran? Sut ellid cynhesu'r ardaloedd hynny heb wresogi'r ysgol gyfan?
Ar sail eich dadansoddiad o system wresogi wedi'i rheoli'n wael ac wedi'i rheoli'n dda, pa gamau y mae angen i chi eu cymryd yn eich ysgol?
Gwybodaeth Uwch
Mae gan y rhan fwyaf o ysgolion mwy nodwedd ar reolydd y boeler o'r enw 'rheolydd dechrau optimaidd' sy'n cynnau'r boeler yn awtomatig yn gynt yn y diwrnod mewn tywydd oer ac yn ddiweddarach yn y dydd mewn tywydd cynhesach. Ond, mewn sawl ysgol nid yw'r awtomatiaeth hon yn gweithio'n iawn, ac mae'n diffodd y boeler yn rhy gynnar. Yr achos mwyaf cyffredin yw os yw thermostat y boeler wedi'i leoli mewn ardal oer o'r ysgol megis cyntedd neu goridor yr ysgol. Mae thermostat y boeler yn dweud wrth y boeler beth yw tymheredd yr ysgol. Os yw'r thermostat mewn ardal lle nad oes digon o reiddiaduron neu'n agos at ddrws sy'n aml ar agor, yna ni fydd y thermostat bydd yn cyrraedd y tymheredd sydd wedi'i osod ar y gwres. Mae hyn yn golygu ei fod yn dweud wrth y gwres i gynnau yn gynt ac yn gynt yn y bore, wrth i'r ystafelloedd dosbarth gynhesu a chynhesu. Fe allech chi ofyn i ofalwr yr ysgol geisio symud thermostat y boeler i ardal arall yn yr ysgol neu osod y thermostat ar dymheredd is
Mae Sbarcynni yn cefnogi Ysgol Bro Ingli mewn partneriaeth â Egni Coop
We use some essential cookies to make Energy Sparks work. We'd also like to use analytics cookies so we can understand how you use the service and make improvements.
Learn more